Mark Cole ydw i ac rydw i’n angerddol am Orllewin Cymru - gwlad fy ngenedigaeth, fy achau ac fy ‘heddiw’ ac rwy’n awyddus i estyn ei rhinweddau niferus i’r rhai sy’n dymuno ymroi i’w harddwch a’i hanes!
Wedi fy ngeni a fy magu yn Sir Benfro, fy addysg yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion a bellach yn byw ar drothwy'r tair sir yn Aberteifi, enillais BA ac MA mewn Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ôl bywyd o weithio mewn rolau sy’n gwynebu’r cyhoedd, gyda rhyngweithio rheolaidd gyda’r cyfryngau lleol a chenedlaethol, rwyf wedi dychwelyd yn ol at fy ‘nghariad cyntaf’ - cyfathrebu a hanes!
Rwy’n tywysydd twristaidd achrededig swyddogol ‘Bathodyn Gwyrdd’ ar gyfer De Orllewin Cymru gyda Chymdeithas Tywyswyr Teithiau Swyddogol Cymru - yr unig tywyswyr a gydnabyddir yn swyddogol gan Croeso Cymru a Llywodraeth Cymru.
Yn hollol ddwyieithog, rwyf wrth fy modd yn mynegi fy mrwdfrydedd a defnyddio fy sgiliau i ddarparu teithiau tywys difyr a goleuedig i ymwelwyr naill yn Saesneg neu'n Gymraeg.
Ynghyd â fy ngwraig Alyson, byddwn yn gofalu amdanoch ac yn eich tywys yn ddiogel o amgylch gorllewin Cymru. Felly p'un a ydych chi am archwilio ein huchafbwyntiau neu ddod o hyd i'n gemau cudd, neu ymchwilio i'ch gorffennol eich hun trwy olrhain ôl troed eich cyndeidiau, cysylltwch â ni yma gyda'ch ceisiadau unigryw, er mwyn caniatáu inni eich helpu chi i wneud hynny!
Edrychwn ymlaen at glywed wrthoch!
Teithiau pwrpasol wedi'u teilwra, gan gynnwys:
Os oes gennych daith mewn golwg neu os hoffech wneud ymholiad, cwblhewch y ffurflen ymholiad.
Neu gallwch gysylltu â mi yn uniongyrchol ar: